Mae dau gynghorydd o Borthmadog yn y ras i fod yn ymgeisydd Plaid Cymru yn etholiad y Cynulliad 2021 yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd.

Mae Nia Jeffreys yn gynghorydd sir sydd hefyd ar Gabinet Cyngor Gwynedd, gyda chyfrifoldeb am wasanaethau cyfreithiol a chefnogaeth gorfforaethol.

Aelod o Gyngor Tref Porthmadog yw Dr Simon Brooks, sy’n ymgyrchydd iaith ac awdur llyfrau.

Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionnydd yw’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, ac mae yn dal y sedd ers cychwyn y Cynulliad yn 1999.

Bu’n cynrychioli Plaid Cymru yn y Cynulliad hyd nes 2016, pan adawodd er mwyn bod yn aelod annibynnol.

Yn 2017 fe gafodd ei benodi yn Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon yn y Llywodraeth Lafur yn y Bae.

Ers iddo adael Plaid Cymru, mae sawl un o’u cefnogwyr wedi galw am isetholiad.

Mae disgwyl y byddai gornest rhwng ymgeisydd y Blaid a Dafydd Elis-Thomas adeg etholiad y Cynulliad 2021 yn un o’r uchafbwyntiau.

Adeg yr etholiad diwethaf yn 2016 roedd gan Dafydd Elis-Thomas, a oedd yn sefyll ar ran Plaid Cymru bryd hynny, fwyafrif o 6,406.

Nia Jeffreys

Mae’r broses o ddewis ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer etholiad 2021 wedi cychwyn yn Nwyfor Meirionnydd yr wythnos hon, a bydd cyfarfodydd hystings yn cael eu cynnal yn yr etholaeth ym mis Mehefin.

Mae’r Cynghorydd Nia Jeffreys wedi e-bostio aelodau’r Blaid i ddweud ei bod yn ceisio cael ei dewis yn ymgeisydd.

Yn ei neges mae hi’n dweud:

“Rwyf yn enedigol o Ddwyfor Meirionydd wedi fy magu ym Mhorthmadog.

“Gadewais yr ardal er mwyn gwneud gradd mewn Gwleidyddiaeth a dilyn gyrfa lwyddiannus mewn cysylltiadau cyhoeddus.

“Bues yn gweithio am gyfnod yn San Steffan i Elfyn Llwyd ac yn hwyrach i Dafydd Wigley yn y Cynulliad.

“Dychwelais adref yn 2010 gyda fy ngŵr, Ian ac ein dau o blant.

“Wedi dod yn ôl i’r ardal roeddwn yn benderfynol o weithio i wella cyfleodd i bobol leol.

“Cefais fy ethol yn Gynghorydd Sir dros ward Dwyrain Porthmadog yn 2017 cyn ymuno a Chabinet Cyngor Gwynedd yn 2018.

“Rwyf yn teimlo yn angerddol am werthoedd craidd y Blaid, wedi bod yn aelod ffyddlon a gweithgar ers blynyddoedd maith.

“Os yn llwyddiannus byddaf yn gweithio yn ddiflino yn y Cynulliad i roi’r gwerthoedd yma ar waith er lles pobol Dwyfor Meirionydd.”

Simon Brooks

Mae’r Cynghorydd Simon Brooks hefyd yn gobeithio cael sefyll ar ran Plaid Cymru yn 2021.

“Mae pobol wedi bod yn gofyn i mi wneud,” meddai.

“Fyswn i’n licio rhedeg ymgyrch hollol gadarnhaol ynglŷn â dyfodol Gwynedd.

“Tai, Gwaith, Iaith fydd fy neges i – ein bod ni angen datblygu economaidd a swyddi da.

“Mae’n rhaid i ni gadw ein pobol ifanc yma, a dw i am gyhoeddi polisïau er mwyn i ni gael trafodaeth yng Ngwynedd ynglŷn â sut fedrwn ni wneud hynny.

“Gwynedd gref mewn Cymru annibynnol. A bod y Gymraeg yn aros yn iaith y gymuned. Dyna dw i’n meddwl ydi lle mae’r Blaid yng Ngwynedd eisiau mynd.”