Mae angen i Lywodraeth Prydain “wneud y mwyaf” o’r manteision sydd ar gynnig ar safle Wylfa Newydd a’r ardal leol ym Môn wrth ystyried “cyfres o brosiectau ynni posib” ar gyfer y dyfodol, meddai pwyllgor seneddol.

Ddechrau’r flwyddyn, fe gyhoeddodd Pŵer Niwclear Horizon – is-gwmni Hitachi – eu bod nhw’n atal y gwaith o ddatblygu Wylfa Newydd.

Ers hynny, mae aelodau o’r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan wedi bod yn ymchwilio i oblygiadau’r penderfyniad hwn ar yr economi leol.

Yn eu hadroddiad terfynol, maen nhw’n nodi bod “manteision daearegol penodol” yn perthyn i’r safle, ac y gallai Llywodraeth Prydain a Hitachi elwa o sgiliau’r bobol leol drwy ystyried “modeli ariannol a all helpu’r datblygiad i barhau”.

Mae’r pwyllgor hefyd yn galw am ystyried “cyfres o brosiectau ynni cynaliadwy posib” ar gyfer gogledd-orllewin Cymru.

‘Gwneud y mwyaf o fanteision’

“Roedd datblygu safle Wylfa Newydd yn hanfodol bwysig i Ynys Môn a gweddill gogledd-orllewin Cymru, ac roedd y cyhoeddiad am atal y gwaith yn ergyd i’r gymuned a’r economi leol,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor Cymreig, David T C Davies.

“Mae fy mhwyllgor wedi clywed bod yr amodau daearyddol addas a’r digonedd o weithwyr sgilgar yn gwneud safle Wylfa Newydd yn diriogaeth ffrwythlon ar gyfer datblygiad niwclear, tra bo’r ardal ehangach yn addas ar gyfer cyfres o brosiectau ynni cynaliadwy.

“Mae ein hadroddiad yn galw ar y Llywodraeth i wneud y mwyaf o’r manteision hyn gan sicrhau bod cyfres o brosiectau ynni posib yn cael eu datblygu ar y safle.”