Bydd myfyrwyr Meddygaeth yn gallu derbyn eu holl hyfforddiant meddygol yn y gogledd o fis Medi ymlaen, o ganlyniad i bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bangor.

Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y llynedd y bwriad i ehangu addysg feddygol i weddill Cymru, gyda myfyrwyr yn gallu ymgymryd ag addysg feddygol yn llawn yn y gogledd.

Mae myfyrwyr meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd eisoes wedi gallu elwa ar leoliadau gwaith yn y gogledd, ond dyma fydd y tro cyntaf iddyn nhw fedru cwblhau eu holl raglen hyfforddiant yno.

Bydd y rhaglen Meddygaeth MBBCh (C21), sy’n cael ei chynnal ym Mhrifysgol Caerdydd, yn cael ei chynnig drwy Ysgol y Gwyddorau Meddygol ym Mhrifysgol Bangor, gan gychwyn ym mis Medi.

Yn ôl yr Athro Dean Williams, Pennaeth yr Ysgol Meddygaeth ym Mhrifysgol Bangor, bydd myfyrwyr yn gallu elwa o’r “cyfuniad o addysgu gwyddonol safonol ym Mhrifysgol Bangor a lleoliadau clinigol sefydledig ar draws gogledd Cymru.”