“Mae Llywodraeth Cymru’n colli’r frwydr yn erbyn y diciâu,” yn ôl Andrew RT Davies, llefarydd amaeth y Ceidwadwyr Cymreig.

Daw ei sylwadau wrth i NFU Cymru alw ar i’r llywodraeth weithio mewn partneriaeth ac i ddilyn esiampl Lloegr er mwyn datrys y sefyllfa.

Mae cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod diffyg gweithredu’r llywodraeth yn achosi problemau sylweddol i fusnesau ffermio.

“Mae dull presennol Llafur yn ddrud, yn chwit-chwat ac yn methu â rhoi hyder i ffermwyr a’r sector da byw y bydd yr afiechyd yn cael ei ddileu yng Nghymru.”

Mae’n cyhuddo Lesley Griffiths, y Gweinidog Amaeth, o “chwarae’r gêm o daflu’r bai” ac o “fethu â chynnig atebion” yn ei datganiad diweddaraf.

Partneriaeth

Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gydweithio â ffermwyr er mwyn datrys y sefyllfa, meddai NFU Cymru ddeunaw mis ar ôl i strategaeth Llywodraeth Cymru gael ei lansio.

Tra bod Lesley Griffiths yn dweud bod gostyngiad o 5% yn nifer yr achosion newydd yng Nghymru, mae’r cynnydd o 12% yn nifer y gwartheg sydd wedi’u difa ers 2018 yn “destun pryder” i’r undeb.

Testun pryder arall, meddai’r undeb, yw’r cynnig yn y datganiad gan Lesley Griffiths i adolygu cynllun digolledi’r diciâu.

“Aeth deunaw mis heibio ers i’r Gweinidog lansio’r Rhaglen Dileu’r Diciâu mewn Gwartheg, a bydd ffermwyr Cymru’n cwestiynu a fyddwn ni fyth yn cael dileu’r afiechyd hwn,” meddai Aled Jones, Dirprwy Lywydd NFU Cymru.

Dilyn esiampl Lloegr

Mae’n dweud bod y cynnydd o 12% yn nifer y gwartheg a gafodd eu difa (11,233) yn “gwbl annerbyniol” a bod y ffigwr yn arwydd o’r ffaith “nad yw’r strategaeth yn cael digon o effaith ar y broblem ddifrifol hon”.

Er bod yr undeb yn nodi llwyddiannau mewn rhai ardaloedd, maen nhw’n dweud bod angen cydweithio i wella’r sefyllfa drwyddi draw, ac i ddilyn esiampl Lloegr.

“Y realiti yw nad yw’r dull hwn o ddileu’r diciâu mewn gwartheg yn ddull o bartneriaeth ‘go iawn’.

“Os ydyn ni fyth am fyw a ffermio mewn gwlad sy’n rhydd rhag diciâu mewn gwartheg, mae angen i ni ddileu’r wleidyddiaeth a’r emosiwn allan o’r ddadl hon a chanolbwyntio ar wyddoniaeth – yn union fel y mae ein cymdogion yn Lloegr ac yn rhannau eraill y byd wedi’i wneud.”