Aberystwyth
Mae Cyngor Tref Aberystwyth wedi cymeradwyo cynllun i ychwanegu baner sipsi Romani at y 52 sydd eisoes yn chwifio ar bromenâd y dref.
Fe fydd y cynnig nawr yn mynd gerbron y Cyngor Sir am y penderfyniad terfynol.
Ond mae’r penderfyniad wedi cythruddo rhai sy’n teimlo na ddylai’r faner fod yno, gan gynnwys y Cynghorydd tref Ceredig Davies.
“Mae llawer o’r fflagiau yn perthyn i wledydd Celtaidd a hefyd gwledydd y bobol sydd yn draddodiadol yn dod ar eu gwyliau i Aberystwyth,” meddai wrth Golwg 360.
“Dyna ydw i’n meddwl yw’r meini prawf ynglŷn a beth i’w roi i fyny.
“Doeddwn i ddim yn gweld bod angen newid y baneri sydd lan ac wyddwn i ddim oedd e am ryw reswm politicaidd neu rywbeth, ond doeddwn i ddim am ei gefnogi am y rhesymau yna.
“Mae’r baneri wedi bod lan ‘na fel maen nhw ac wedi’u dewis ers blynyddoedd a dw i’n ddigon bodlon gyda’r dewis hynny,” meddai.
Mi fyddai ychwanegu fflag sipsi Romani yn golygu colli un fflag sydd i fyny yno’n barod, meddai.
Ond, roedd Cynghorydd tref arall, Lyn Dafis, yn cefnogi’r syniad, medai, er nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod pan oedd y cynghorwyr yn pleidleisio.
‘Dim esiampl well’
“Mae Aberystwyth yn enwog am roi lle i genhedloedd di-wladwriaeth a does yna ddim esiampl well o genedl heb wladwriaeth na’r Romani,” medai.
“Dw i’n credu y byddai yn syniad da iawn i Aberystwyth ychwanegu fflag y Romani at y fflagie eraill sy’n chwifio ar y prom yn Aberystwyth. Mae ’na filiynau ohonyn nhw’n byw yn Ewrop.
“Wrth gwrs, dydyn nhw ddim yn byw mewn gwladwriaeth, maen nhw wedi’u gwasgaru ar hyd a lled – ond eto i gyd mae gyda nhw hunaniaeth yn gyffredin a dw i’n credu byddai’n beth da iawn i ni fedru cydnabod hynny yn Aberystwyth fel yr ydyn ni’n cydnabod hunaniaeth pobl eraill ar draws Ewrop.”
‘Dathlu’
Dywedodd cynghorydd tref arall, Mark Strong, ei fod eisiau “dathlu” cyfraniad y Romani a’u cysylltiad â Chymru.
Roedd hynny’n cynnwys cyfraniad teulu Abram Wood i Gymru a chymunedau iaith Kale i ddiwylliant y wlad.
“Oherwydd y cysylltiad gyda’r Roma yng Nghymru – yn enwedig yn y Gogledd a’r Canolbarth – roeddwn i’n meddwl y byddai’n syniad da iawn.
“Mae’r Romani wedi’u cam-drin mewn rhai o wledydd Ewrop, a dw i’n credu ei fod yn syniad da amddiffyn pobl os ydyn nhw’n cael eu cam-drin,” meddai.
Fe eglurodd bod y Cyngor tref yn prynu fflagiau newydd bob blwyddyn, wrth iddyn nhw dreulio yn y tywydd.
Dywedodd mai tua £1,000 o bunnoedd fyddai polyn arall i osod baner yn ei gostio.