Bydd Cymru yn ennill annibyniaeth cyn Gwlad y Basg, yn ôl ymgyrchydd gwleidyddol o’r wlad honno.

Mae Begotxu Olaizola yn cynrychioli Cynulliad Cenedlaethol Catalwnia, ond yn hanu o Wlad y Basg ac yn medru ei hiaith. Mae’n esbonio bod cenedl y Basgiaid wedi’i rhannu’n thair rhan – gydag un o’r rheiny yn Ffrainc, a’r gweddill yn Sbaen.

Ac mae’n esbonio bod y rhaniad yna yn “gwneud pethau yn anodd iawn” i’r mudiad tros sefydlu gwladwriaeth unedig i Wlad y Basg.

“Dyna pam dw i’n tueddu dweud pob tro y bydd Cymru yn annibynnol cyn Gwlad y Basg,” meddai wrthgolwg360.

“Mae pawb yn chwerthin at hynny. Ond dw i’n gweld anhawster mawr gyda ni, oherwydd mae’n rhaid i ni gyfathrebu gyda dwy wladwriaeth.

“Ac mae Ffrainc yn wlad Jacobaidd sy’n canoli pŵer. Yn Sbaen mae yn a diffyg democratiaeth. Hefyd rydym wedi cael ein rhannu yn dair cymuned. Felly mae cydweithio yn anodd.”

Mae’n dweud bod y sefyllfa’r un fath a pe bai Gogledd Cymru yn rhan o Iwerddon; a bod Canolbarth Cymru a De Cymru yn gweithredu dan ddeddfau gwahanol.

Er gwaetha’r her, mae uno’r tair rhan dan un faner yn “dal i fod yn un o’r cwestiynau pwysicaf ar yr agenda”.

ETA

Corff amlwg a fu’n rhan o hanes cenedlaetholdeb Basgaidd yw ETA (Gwlad y Basg a Rhyddid).

Mae’r grŵp yn enwog am gynnal ymgyrch arfog am annibyniaeth a ddaeth i ben yn swyddogol ym mis Ebrill y llynedd.

Er bod ETA wedi dod i ben, mae problemau yn gysylltiedig â’r grŵp yn parhau, yn ôl Begotxu Olaizola.

“Mae ETA wedi mynd, ond dydy Llywodraeth Sbaen ddim wedi helpu’r [sefyllfa],” meddai. “Doedden nhw ddim yn dangos eu bod eisiau i ETA ddod i ben.

“Gofynnodd ETA am gael diarfogi, gan ddefnyddio archwilwyr rhyngwladol. Ond roedd Sbaen yn gwrthod cwrdd â nhw a gwneud unrhyw beth.

“Felly mae wedi dod i ben, ond mae hynny wedi digwydd mewn ffordd wael.”

Mae’n ategu bod yna “anhawster” ynghylch hawliau pobol a gafodd eu heffeithio gan ymosodiadau. A dyw carcharorion ETA ddim yn cael eu trin yn gydradd â charcharorion eraill, meddai.

Yr iaith

O ran sefyllfa’r iaith Basgeg, mae Begotxu Olaizola yn egluro ei bod yn “marw” mewn rhai ardaloedd.

“Mae pobol ifanc yn tueddu anghofio’r iaith, neu’n peidio â’i defnyddio,” meddai. “Hefyd dyw rhieni ddim yn trosglwyddo’r iaith.”

Mae’n egluro bod eu statws yn iaith leiafrifol yn magu teimlad o agosatrwydd at siaradwyr rhai ieithoedd eraill.

“Rydym yn teimlo agosatrwydd at Gatalwnia ar hyn o bryd achos y sefyllfa yno,” meddai. “Rydym hefyd yn teimlo agosatrwydd at wledydd bychain eraill.

“Mae pobol [ag iaith leiafrifol] yn medru cydymdeimlo â siaradwyr ieithoedd lleiafrifol eraill.”