Mae S4C wedi cyhoeddi mai Gwenllian Gravelle yw Comisiynydd Drama newydd y sianel.

Ar hyn o bryd mae Gwenllian ar secondiad gyda Vox Pictures o Adran Ddrama BBC Cymru, a hi yw cynhyrchydd Un Bore Mercher/ Keeping Faith.

Mewn gyrfa o dros chwarter canrif gyda’r BBC, mae Gwenllian wedi cynhyrchu amryw o ddramâu gan gynnwys Pobol y Cwm, Casualty a nifer o ddigwyddiadau byw gan gynnwys Cardiff Singer of the World.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â thîm comisiynu S4C,” meddai Gwenllian Gravelle.

“Mae’n gyfnod euraidd ym myd drama yng Nghymru gyda nifer fawr o gynyrchiadau o’r safon uchaf fel Bang, Craith ac Un Bore Mercher wedi eu creu yng Nghymru yn ddiweddar.

“Rwy’n gobeithio datblygu ar y llwyddiant hwn gan ddod â chynnyrch heriol, gwreiddiol ac arloesol i wylwyr S4C.”

Bydd yn dechrau yn ei swydd newydd ym mis Mehefin eleni.