Mae gwasanaeth mamolaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg o dan fesurau arbennig ar ôl i adroddiad nodi bod iechyd cleifion mewn perygl.

Mae gan y bwrdd iechyd dau ysbyty – Ysbyty Brenhinol Morgannwg ger Llantrisant ac Ysbyty’r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful.

Daeth ymchwiliad i unedau mamolaeth y ddau ysbyty i’r casgliad bod yna “bryderon sylweddol” ynghylch staffio, prosesau a’r diwylliant yno.

Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi ymddiheuro i deuluoedd a gafodd eu heffeithio gan fethiannau yn y ddau leoliad, ar ôl i 43 achos difrifol gael eu cofnodi.

Roedd y rhain yn cynnwys wyth achos o fabanod yn cael eu geni’n farw, ynghyd â phum achos o fabanod yn marw yn fuan wedi genedigaeth. Bu’r rhain rhwng Ionawr 2016 a Medi 2018.

Canfyddiadau

Cafodd yr adolygiad ei gynnal gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a Gynecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd.

Fe wnaethon nhw ddod i’r casgliad bod staff “o dan bwysau sylweddol” ac yn gweithio o dan arweinyddiaeth “israddol”.

Mae prinder staff, diffyg cefnogaeth i ddoctoriaid ifanc a diffyg ymwybyddiaeth am ganllawiau o dan y lach hefyd.

Mae adroddiad gwahanol wedyn yn nodi bod rhai merched wedi cael eu hanwybyddu gan staff ar ôl codi pryderon ynghylch eu beichiogrwydd, gyda hynny’n arwain at golli babanod mewn rhai achosion.

Ychwanega’r adroddiad bod rhai merched a’u teuluoedd ddim wedi derbyn unrhyw gwnsela neu gefnogaeth yn sgil colli babi, ac yn parhau i ddioddef yn emosiynol.

“Achos pryder”

Yn ôl Vaughan Gething, a gomisiynodd yr adroddiad fis Hydref y llynedd, mae’r canfyddiadau’n “ddifrifol ac yn achos pryder”.

“Hoffwn i ddechrau drwy ymddiheuro i’r menywod a’r teuluoedd a gafodd eu heffeithio gan y gofal o ansawdd gwael a ddisgrifiwyd,” meddai.

“Rwy’n benderfynol y bydd y camau rwy’n eu cyhoeddi heddiw yn ysgogi’r newidiadau angenrheidiol i wella gwasanaethau mamolaeth Cwm Taf.

“Mae’n hanfodol bwysig i‘r gwaith hwn ddarparu tawelwch meddwl i deuluoedd sy’n derbyn gofal ar hyn o bryd yn eu hysbytai.”

Bydd ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal i 43 beichiogrwydd rhwng Ionawr 2016 a Medi 2018, tra bo panel annibynnol am oruchwylio gwasanaethau mamolaeth y bwrdd iechyd er mwyn gyrru’r gwelliannau.