Mae undebau athrawon wedi ymateb yn gymysg i’r fersiwn drafft o’r cwricwlwm addysg sydd wedi ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 30).

O dan y cynlluniau newydd, fe fydd “y ffiniau” rhwng pynciau traddodiadol yn cael eu diddymu, gyda chwe maes newydd yn cymryd eu lle.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, fe fydd y cwricwlwm newydd yn gweld cefnu ar y Cwricwlwm Cenedlaethol “cul a hen ffasiwn” a gafodd ei gyflwyno mewn ysgolion yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn 1988.

Mae’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad yn cynnwys Mathemateg a Rhifedd; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu; Gwyddoniaeth a Thechnoleg; Iechyd a Lles, a Dyniaethau.

Bydd y cwricwlwm newydd, a fydd yn cael ei gyflwyno i blant blwyddyn 7 ym mis Medi 2022, hefyd yn gwneud pynciau Cymraeg a Saesneg, Astudiaethau Crefyddol ac Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb, yn rhai gorfodol i ddisgyblion o dan 16 oed.

Ymgynghoriad

Bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar y cwricwlwm drafft cyn i fersiwn terfynol gael ei gyhoeddi y flwyddyn nesaf.

“Mae’r hyn rydym yn ei gyhoeddi heddiw yn wahanol iawn i’r hyn y bydd y rhan fwyaf ohonom wedi’i brofi, ac mae’n newid mawr o ran diwylliant,” meddai’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

“Rydym yn rhoi’r gorau i gwricwlwm cyfyngol, sydd ar ôl yr oes bellach, ac sy’n nodi’r yn y dylai’r disgyblion fod yn ei ddysgu fesul pwnc, fesul testun, fesul awr. Nid llyfr rheolau mo hwn.

“Gan ddefnyddio eu gwybodaeth, eu profiad a’u harbenigedd helaeth, mae athrawon yng Nghymru wedi creu fframwaith sy’n nodi hanfodion addysg wirioneddol yr unfed ganrif ar hugain.”

Pryderon

Yn ôl Chris Keats, ysgrifennydd cyffredinol yr undeb athrawon, NASUWT, cafodd “y rhan fwyaf o athrawon” yng Nghymru ddim cyfle i roi eu barn ar y drafft cyn iddo gael ei gyhoeddi.

Mae Neil Butler o’r undeb yn dweud bod yna bryderon y gallai athrawon pynciau arbenigol gael eu colli.

“Fe all hyn arwain at ysgolion ac awdurdodau lleol yn lleihau costau trwy dorri lefelau’r staff addysgu a thanseilio’r ymdeimlad o berchnogaeth y maen rhaid i’r maes addysgu ei gael ar y diwygiadau hyn os ydyn nhw am gael eu gweithredu’n llwyddiannus,” meddai.

Mae prif bryder David Evans o UACC ynghylch adnoddau hefyd, gan ddweud bod angen “buddsoddiad sylweddol” gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau “amser a hyfforddiant” i addysgwyr er mwyn darparu cwricwlwm newydd.