Mae dyn o Abertawe wedi ymddangos yn y llys bore ma ar gyhuddiad o lofruddio dynes 22 oed.

Mae Jason Farrell, 49, wedi’i gyhuddo o ladd Sammy-Lee Lodwig mewn tŷ yn ardal Mount Pleasant yn y ddinas tua 3yb ar ddydd Mawrth Ebrill 23.

Fe siaradodd Jason Farrell, i gadarnhau ei enw a’i ddyddiad geni yn unig wrth iddo ymddangos gerbron ynadon Abertawe heddiw (dydd Llun, Ebrill 29).

Clywodd y llys bod Jason Farrell hefyd wedi’i gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol i ddyn o’r enw Christopher Mayer.

Cafodd Jason Farrell ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn mynd gerbron Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth.