Mae dynion yn y carchar yn “llawer mwy tebygol” na dynion yn y boblogaeth ehangach o fod wedi dioddef trallod yn ystod eu plentyndod, yn ôl ymchwil newydd.

Mae’r canfyddiadau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor yn awgrymu y gallai “camau ataliol ac ymyrraeth gynnar” i fynd i’r afael a’r profiadau hyn fod wedi atal troseddu, yn ogystal â lleihau costau ar gyfer y system gyfiawnder.

Yn ôl yr arolwg, a gafodd ei gynnal ar ddynion yng Ngharchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr, dywedodd mwy nag wyth o bob 10 (85%) eu bod wedi profi trallod – neu Brofiad Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) – o gymharu â chyfartaledd o 46% yng Nghymru.

Mae hefyd yn nodi bod bron i hanner y carcharorion (46%) wedi profi o leiaf pedwar ACE. Mae hyn yn cymharu ag ychydig dros un o bob deg (12%) yn y boblogaeth ehangach.

Dywed yr adroddiad fod carcharorion sydd wedi profi mwy na phedwar ACE bedair gwaith yn fwy tebygol o fod wedi treulio amser mewn sefydliad troseddwyr ifanc o gymharu â’r rhai heb brofi unrhyw drallodion.

Ymyrraeth gynnar

Fe all ACE, sef profiad trawmatig sy’n digwydd cyn 18 oed, amrywio o gam-drin geiriol, meddyliol, corfforol a rhywiol, i ddod i gysylltiad ag alcoholiaeth, y defnydd o gyffuriau a thrais domestig.

“Nododd traean o’r holl garcharorion a holwyd mai un o’u profiadau niweidiol yn ystod plentyndod oedd tyfu i fyny mewn aelwyd lle’r oedd rhywun wedi’i garcharu,” meddai’r Athro Mark Bellis, Cyfarwyddwr Polisi a Datblygu Rhyngwladol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru.

“Gellir torri’r cylchoedd hyn rhwng y cenedlaethau drwy systemau iechyd a chyfiawnder troseddol sy’n cydweithio ac yn helpu rhieni i ddarparu amgylchedd diogel a meithringar i bob plentyn.”

Cafodd y data ei gasglu rhwng mis Chwefror a mis Mehefin 2018 mewn cyfweliadau wyneb yn wyneb gyda samplo o 468 o garcharorion rhwng 18 a 69 oed.