Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi amddiffyn y fenter yn dilyn beirniadaeth gan y newyddiadurwr Gwilym Owen, heddiw.

Yn ei golofn yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon mae’r newyddiadurwr profiadol yn beirniadu’r “rhith o goleg” am beidio a thynnu unrhyw sylw at ei lansiad ei hun.

Mae’r Coleg eisoes wedi gwrthod haeriad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar 27 Fedi ei fod yn “anweledig”.

Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol eu bod nhw’n hyderus, o fewn y pum mlynedd nesaf, o drawsnewid lle’r Gymraeg o fewn addysg uwch.

Pwysleisiodd fod y “buddsoddiad o £1m mewn swyddi darlithio newydd drwy’r Gymraeg yn ddatblygiad na welwyd erioed o’r blaen yn hanes addysg uwch drwy’r Gymraeg”.

Bydd swm tebyg yn cael ei fuddsoddi mewn swyddi ychwanegol bob blwyddyn, hyd at 2015/16, meddai’r Coleg.

Mae 25 o ddarlithwyr newydd wedi eu penodi i swyddi academaidd ym mhrifysgolion Cymru ers mis Ebrilll, gan gynnwys rhai o “academyddion disgleiriaf eu cenhedlaeth”, medden nhw.

“Mae’r penodiadau yma wedi eu gwneud fel canlyniad uniongyrchol i sefydlu’r Coleg.  Dros y pedair blynedd nesaf bydd dros 100 o swyddi darlithio wedi eu llenwi a thrwy hynny gynyddu’n sylweddol y ddarpariaeth sydd ar gael i fyfyrwyr prifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Cyfarfod

Daw hyn wrth i Gymdeithas yr Iaith ddweud eu bod nhw’n bwriadu sefydlu grŵp er mwyn “goruchwylio gwaith” y sefydliad newydd.

Fe fydd y cynnig  yn mynd gerbron cyfarfod cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Wrecsam ddydd Sadwrn nesaf (8 Hydref).

Mae Ffred Ffransis, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, hefyd wedi galw ar y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i fod yn fwy gweledol mewn campysau ar draws y wlad.

Ond dywed y Coleg mai dim ond megis dechrau mae’r gwaith, ac y bydd cynllun strategol y Coleg yn cael ei ystyried gan y cyfarwyddwyr ym mis Hydref.

Bydd cynllun academaidd hefyd yn cael ei gytuno yn ystod gwanwyn 2012 er mwyn creu trefn gynllunio genedlaethol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg yn eu prifysgolion.