Mae Plaid Cymru yn honni mai nhw yw’r unig blaid yng Nghymru sydd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd ac sydd â’r gallu i fod yn llwyddiannus yn Etholiad Senedd Ewrop.

Mae gan y blaid bedwar ymgeisydd yn yr etholiad fis nesaf, sef Jill Evans, Carmen Smith, Patrick McGuinness a Ioan Bellin.

Yn ôl Patrick McGuinness, roedd Plaid Cymru wedi cynnig i’r Blaid Werdd y posibilrwydd o gydweithio yn yr ymgyrch yn arwain at yr etholiad, ond eu bod nhw wedi gwrthod y cynnig hwnnw.

“Fe allai partneriaeth rhwng y pleidiau sydd o blaid aros fod wedi bod yn gyfle i gynnig y dewis mwyaf clir i bleidleiswyr yn yr etholiad Ewropeaidd,” meddai Patrick McGuinness.

“Yn anffodus, dyw’r Blaid Werdd ddim am barhau â’r syniad. Ond mae Plaid Cymru yn dal i fod yn barod i arwain y bleidlais ‘aros’ yng Nghymru.

“O’r holl bleidiau ‘aros’, ni yw’r unig rai erioed i ennill sedd Ewropeaidd yng Nghymru. Ni yw’r unig ddewis ymarferol.

“Ni yw plaid ‘aros’ Cymru, ac ni yw’r unig blaid yng Nghymru fydd yn sefyll yn yr etholiad hwn sydd â’r nod o amddiffyn buddiannau ein cymunedau, ein diwydiannau a’n teuluoedd.

“Yn syml, mae pleidlais i Blaid Cymru yn yr etholiad hwn yn bleidlais i wneud Cymru yn wlad o bwys.”