Mae gwyntoedd cryfion o 82 milltir yr awr yn Aberdaron heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 27) yn sgil Storm Hannah.

Yng Nghymru y mae’r rhan fwyaf o’r 1,700 o gartrefi yng ngwledydd Prydain sydd heb gyflenwad trydan ar hyn o bryd, yn ôl Western Power Distribution.

Mae bysus wedi’u trefnu yn lle trenau yn Nyffryn Conwy rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog.

Mae’r gwyntoedd yn gryf yn y de hefyd, ac wedi cyrraedd cyflymdra o 78 milltir yr awr ar draeth Pen-bre yn Sir Gaerfyrddin.

Mae disgwyl i’r gwyntoedd barhau ar eu cryfaf ar hyd yr arfordir, ond fe allen nhw godi mewn ardaloedd eraill hefyd yn ystod y dydd.