Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad rhyw ar ddynes yn ei thridegau yn y Barri ddechrau’r wythnos.

Roedd y ddynes yn cerdded ar lwybr mewn parc yn gynnar ar fore Sul (Ebrill 21) pan ymosododd ddyn arni.

Yn ôl Heddlu De Cymru, mae’r dyn naill ai yn ei ugeiniau hwyr neu ei dridegau cynnar. Mae hefyd yn chwe throedfedd a saith modfedd o daldra, yn gryf ei gorff a chanddo wallt byr lliw brown a barf.

Maen nhw hefyd yn ei ddisgrifio fel dyn sydd ag acen de-orllewin Lloegr cryf, sydd â chraith ar draws ei foch chwith o dan ei lygaid a thatŵ ar ei fawd de.

Adeg yr ymosodiad, roedd yn gwisgo hwdi gyda phatrymau ar draws y fron a jîns tywyll.

“Rydym yn annog unrhyw un sydd wedi gweld y dyn hwn o’r blaen neu ar ôl yr ymosodiad i gysylltu â ni,” meddai’r Ditectif Arolygydd, Emma Hampton.

“Mae ymholiadau yn dal i gael eu cynnal ac mae’r ddynes yn cael ei chefnogi gan swyddogion arbenigol.”