Alun Ffred Jones
Mae’r Aelod Cynulliad, Alun Ffred Jones, wedi dweud wrth Golwg360 heddiw y bydd rhaid i’r Comisiynydd Iaith newydd fod yn barod i “ddweud y caswir pan fydd rhaid.”

Dywedodd y cyn-Weinidog Treftadaeth ei fod yn gobeithio y bydd y Comisiynydd Iaith newydd yn dod yn “bencampwraig ar ran siaradwyr Cymraeg.”

Ddoe cyhoeddodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, mai Meri Huws fydd Comisiynydd cyntaf y Gymraeg.

Hi yw Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar hyn o bryd, ond fe fydd y bwrdd yn dod i ben yn sgil creu swydd y Comisiynydd.

Dywedodd Alun Ffred Jones y bydd rhaid i “hi a’i thîm sicrhau bod mwy o wasanaethau Cymraeg ar gael i bobl ac y bydd y gwasanaethau hynny ar gael yn rhwydd. Bydd hwnnw’n her i’r llywodraeth hefyd,” meddai.

“Mae creu hyder ymysg siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r Gymraeg yn gyfrifoldeb i eraill hefyd, gan gynnwys y Llywodraeth,” meddai.

“Bydd rhaid iddi hefyd fod yn barod i fod yn llais annibynnol.”

‘Dathlu’

Mae Alun Ffred Jones wedi galw am ‘flwyddyn dathlu’r Gymraeg’ er mwyn hybu’r iaith yng Nghymru ac ar draws y byd.

“O ran defnyddio’r Gymraeg a chreu hyder yn ei dyfodol, dwi’n meddwl bod cael blwyddyn dathlu’r Gymraeg yn gyfle gwych i godi ymwybyddiaeth, magu hyder, a thanlinellu mai iaith sy’n perthyn i bawb yng Nghymru ydi’r Gymraeg,” meddai Alun Ffred Jones.