Fe fydd dwy flynedd o waith adnewyddu yn dechrau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth fis nesaf.
Ond er y gwaith adeiladu a thrwsio, ni fydd y llyfrgell yn cau ei drysau i’r cyhoedd.
Bydd y gwaith cynnal a chadw yn digwydd y tu fewn a thu allan i’r adeilad er mwyn “sicrhau fod yr eicon hanesyddol” yn parhau i fod “yn adnodd hanfodol ar gyfer cenedlaethau i ddod,” meddai’r llyfrgell ar eu gwefan.
Mae’n golygu bydd gwasanaethau’r llyfrgell yn cael eu darparu mewn ffyrdd gwahanol wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen – ond ni fydd o’n cau.
Daw’r datblygiad yn dilyn buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru.
“Cartref diogel”
Yn ôl Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru bydd y gwaith “yn sicrhau fod yr adeilad pwysig hwn yn parhau i gynnig cartref diogel i’n trysorau cenedlaethol yn y dyfodol.”
“Mi benderfynon ni beidio cau’r Llyfrgell tra bydd y gwaith yn mynd yn ei flaen er mwyn sicrhau fod gan y cyhoedd fynediad parhaus at y casgliadau unigryw a phwysig sydd yma yn y Llyfrgell Genedlaethol.
“Er y bydd y gwaith yn tarfu ychydig ar brofiad yr ymwelydd, bydd staff y Llyfrgell ar gael bob amser i gynghori a hwyluso ymwelwyr a defnyddwyr.”