Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar ôl i hyd at 120,000 galwyn o slyri gael ei arllwys i afon Dyfan – un o isafonydd afon Teifi – yn ardal Cilgerran ger Aberteifi.

Yn ôl y corff amgylcheddol, fe roddodd y ffermwr wybod iddyn nhw ynghylch y digwyddiad ac fe aethon nhw ati ar unwaith i leihau’r maint o slyri a aeth i’r afon.

Mae’r storfa slyri bellach wedi ei diogelu, medden nhw ymhellach, ac mae swyddogion yn dal i asesu’r ardal er mwyn gwybod pa effaith mae’r llygredd wedi ei chael ar yr afon a’i bywyd gwyllt.

“Gall llygredd slyri gael effaith ddinistriol ar ein hafonydd a’r stociau pysgod, felly mae’n bwysig i ffermwyr wasgaru’n gyfrifol a sicrhau bod eu storfeydd slyri yn cael eu cynnal a’u cadw a’u bod yn addas ar gyfer y pwrpas,” meddai llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru.

“Rydym yn parhau i weithio gyda’r diwydiant ffermio i atal digwyddiadau fel hyn rhag digwydd, ac i sicrhau bod ffermwyr yn gwybod pa gamau i’w cymryd os bydd damweiniau’n digwydd.

“Mae ein hymchwiliad i’r modd y digwyddodd y digwyddiad hwn yn parhau ac mae’r ffermwr yn helpu gyda’n hymholiadau.”