Mae trigolion pentref Cwmann ger Llanbedr Pont Steffan wedi mynegi eu siom yn sgil y bwriad i droi tafarn enwog sy’n dyddio’n ôl i’r 16eg ganrif yn gartrefi.

Mae’r Ram Inn wedi bod ynghau ers degawd, er gwaethaf awgrym y byddai’n ail-agor ar ôl adeiladu estyniad rai blynyddoedd yn ôl er mwyn ychwanegu llety.

Ond ers i’r perchnogion presennol, Douglas Brothers Ltd, gyflwyno cais cynllunio i Gyngor Sir Gaerfyrddin er mwyn trawsnewid y dafarn, mae rhai pentrefwyr wedi lleisio eu barn yn erbyn.

Cafodd gyfarfod brys ei gynnal gan gynghorwyr cymuned Pencarreg i drafod y mater yr wythnos hon (dydd Mawrth, Ebrill 22), gyda rhai’n dymuno gweld y lle’n cael ei roi ar y farchnad fel tafarn.

“Trist ofnadwy”

Yn ôl y rheiny sydd wedi tristáu gyda’r datblygiad diweddaraf yw un o gyn-reolwyr y dafarn, Mary Davies.

Bu hi a’i gŵr, Wynne Davies, yn rhedeg y dafarn am 13 o flynyddoedd tan iddyn nhw benderfynu trosglwyddo’r awenau yn 2003.

Ymhlith yr ymwelwyr enwog a groesodd drothwy’r dafarn yn ystod eu cyfnod wrth y llyw oedd arlywydd yr Unol Daleithiau, Jimmy Carter, a ddaeth yno yn 1995 yn ystod un o’i ymweliadau â Chymru.

“Mae’n well gyda ni ei weld e’n agor fel tafarn eto,” meddai Mary Davies wrth golwg360.

“Efallai se’r perchennog nawr yn ei rhoi ar werth fel tafarn, y byddai rhywun yn fodlon ei brynu…

“Roedd e nid yn unig yn dafarn ond yn ganolfan i’r pentref,” meddai wedyn. “Roedd Côr Cwmann yn arfer dod yna, y tîm criced a’r tîm darts.

“Dw i’n gwybod ei bod hi’n anodd nawr i werthu tafarndai, achos cau maen nhw’n eu gwneud fwyaf… ond wedyn mae’n hen dafarn sy’n mynd yn ôl i 1560 neu rywbeth fel ’na…”