Roedd 732 o achosion o ddynladdiad yng Nghymru a Lloegr y llynedd – sef y nifer mwyaf mewn degawd, yn ôl ystadegau swyddogol.

Mae’n rhaid mynd yn ôl i 2007 i gael golygu fod y nifer o ddynladdiadau ar ei uchaf ers 2007 – pan gafwyd cyfanswm o 765.

Yn ôl Swyddfa’r Ystadegau Cenedlaethol mae cofnodion yr heddlu yn dangos bod troseddau yn ymwneud â chyllyll neu arfau miniog hefyd wedi cynyddu 6% yn 2018 i gymharu â’r flwyddyn gynt.

Yn ôl y ffigurau, roedd nifer o droseddau cyllell wedi cynyddu yn 31 o’r 43 heddluoedd yn y flwyddyn yn arwain at fis Rhagfyr y llynedd.

Roedd y nifer o droseddau treisgar a gofnodwyd gan yr heddluoedd hefyd yn fwy na 1,608,500 y llynedd – sy’n gynnydd o 19% ar niferoedd 2017.