Cafwyd e’n euog o dwylChris Davies, Aelod Seneddol Brycheiniog a Maesyfed, yn wynebu deiseb a allai arwain at ei ddiswyddo.

Cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Southwark ddydd Mawrth, ar ôl i lys ei gael yn euog o gamarwsin wrth hawlio treuliau.

Roedd wedi hawlio treuliau ar gyfer cyfres o ffotograffau i’w gosod yn ei swyddfa newydd yn 2015.

Cafodd e ddirwy o £1,500 ac fe fydd yn rhaid iddo dalu costau llys gwerth £2,500 a chwblhau gwerth 50 awr o waith cymunedol di-dâl.

Fe fydd John Bercow, Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, yn dechrau’r broses ffurfiol drwy anfon llythyr at etholaeth Brycheiniog a Maesyfed.

Cafodd ei rybuddio gan y barnwr yn y llys y gallai’r ddedfryd olygu bod ei yrfa wleidyddol ar ben.

Pe bai 10% o’r etholaeth yn llofnodi’r ddeiseb, fe fydd is-etholiad yn cael ei gynnal.