Mae Bethan Sayed, Aelod Cynulliad Plaid Cymru, am weld Aelodau’r Cynulliad yn tyngu llw i bobol Cymru, ac nid i Frenhines Loegr.

Fe fydd hi’n cyflwyno’i dadleuon yn y Cynulliad ddydd Mercher nesaf (Mai 1).

“Rwy am fod yna opsiwn i bobol dyngu llw i bobol Cymru, ac nid i’r Frenhiniaeth,” meddai ar ei thudalen Twitter.

Mae’r llw presennol yn cyfeirio at “Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II, ei disgynyddion a’i holynwyr”.

Ond mae’r fersiwn sy’n cael ei chynnig gan Bethan Sayed yn dweud bod yr aelodau’n tyngu llw i fod yn “ffyddlon i bobol Cymru”, gyda dewis rhwng llw crefyddol ac un nad yw’n grefyddol.