Fe fu bron i fwa croes daro dyn 74 oed o Gaergybi yn ei galon, yn ôl yr heddlu sy’n ymchwilio i’r digwyddiad ar Ddydd Gwener y Groglith.

Roedd Gerald Corrigan, cyn-ddarlithydd ffotograffeg a fideo sy’n hanu o Sir Gaerhirfryn ond sydd wedi ymgartrefu yn y gogledd ers ugain mlynedd, ar do ei gartref pan gafodd ei daro yn ei frest, ac mae e mewn cyflwr difrifol ac yn anymwybodol yn yr ysbyty yn Stoke.

Teithiodd y saeth i’w frest a’i fraich, a methu ei galon o drwch blewyn.

Mae’r heddlu’n apelio ar y sawl sy’n gyfrifol i fynd atyn nhw a rhoi gwybodaeth am y digwyddiad.

Un o ddamcaniaethau’r heddlu yw mai heliwr sy’n gyfrifol.