Mae’r heddlu’n chwilio am droseddwr rhyw o’r Rhondda a allai fod yn ardal Brighton erbyn hyn.

Fe wnaeth Ian Campbell dorri amodau ei drwydded ar ôl gadael y carchar yn 2017 a mynd ar ffo.

Cafodd ei garcharu yn 2016 am fod â lluniau anweddus yn ei feddiant.

Yn ôl yr heddlu, mae’n destun “pryder” nad yw e dan reolaeth yn y gymuned, ac mae’n bosib ei fod e bellach yn defnyddio enw gwahanol.