Daeth cadarnhad gan Heddlu’r De mai Sammy-Lee Lodwig yw enw’r ddynes 22 oed gafodd ei llofruddio yn Abertawe ddoe (dydd Mawrth, Ebrill 23).

Bu farw ar ôl i’r heddlu gael eu galw i Stryd Carlton yn ardal Bryn Siriol y ddinas am 3.30yb.

Mae ei theulu wedi cael gwybod, ac maen nhw’n derbyn cefnogaeth gan yr heddlu.

“Ro’n i’n caru fy chwaer yn fwy na bywyd,” meddai ei chwaer Miakala mewn datganiad.

“Mae hi wedi ei thynnu oddi arnaf i a’m teulu’n rhy fuan.”

Mae’n dweud ei bod hi’n “caru anifeiliaid, yn enwedig ei chi Rocky”.

Mae dyn 49 oed yn y ddalfa ar amheuaeth o lofruddio, ac mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth gan unrhyw un oedd yn yr ardal rhwng nos Lun a bore dydd Mawrth.