Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd a Chymdeithas y Siarter Awyr yn galw am weithredu yn erbyn hediadau anghyfreithlon yn dilyn marwolaeth Emiliano Sala.

Roedd y chwaraewr 28 oed yn teithio i Gaerdydd o Nantes ym mis Ionawr pan blymiodd ei awyren i’r Sianel.

Fe ddaeth i’r amlwg yn ddiweddarach nad oedd gan David Ibbotson, y peilot, drwydded i gludo teithwyr, a doedd gan yr awyren ddim hawl i gael ei defnyddio at ddibenion masnachol.

Doedd trwydded David Ibbotson ddim yn ei alluogi i hedfan yn y nos.

‘Sioc’

“Rydym yn llwyr gefnogi’r Gymdeithas Siarter Awyr yn eu hymdrechion i sicrhau adolygiad o hediadau anghyfreithlon,” meddai Clwb Pêl-droed Caerdydd mewn datganiad.

“Cafodd ein clwb sioc yn sgil graddfa’r broblem yn y byd chwaraeon ac yn ehangach.

“Mae gan y clwb bolisi hediadau caarn, ond rydym yn rhoi prosesau ychwanegol yn eu lle i ddiogelu’r chwaraewyr a’r staff.”

Ymhlith y camau hynny, meddai’r clwb, mae sicrhau mai awyrennau masnachol yn unig sy’n cael eu defnyddio i gludo chwaraewyr.

Mae’r Gymdeithas Siarter Awyr, yn y cyfamser, yn galw ar Lywodraeth Prydain i adolygu’r gosb sydd ar gael i’r awdurdodau er mwyn lleihau nifer yr hediadau anghyfreithlon sy’n cael eu trefnu.

Ymhlith y rhai sy’n cefnogi galwadau’r Gymdeithas Siarter Awyr mae Stephen Doughty, Aelod Seneddol De Caerdydd a Phenarth.