Mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol, Christopher Davies, wedi derbyn dirwy gwerth £1,500 ar ôl pledio’n euog i ddau achos o roi gwybodaeth anghywir ar ffurflen dreuliau seneddol.

Mae’r aelod tros Frycheiniog a Maesyfed, a gafodd ei ethol yn 2015, hefyd wedi ei orchymyn i gwblhau 50 awr o wasanaeth cymunedol di-dâl yn dilyn dyfarniad yn Llys y Goron Southwark heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 23).

Roedd y ddau gyhuddiad yn erbyn Christopher Davies, 51, yn ymwneud â chyflwyno gwybodaeth ffug neu gamarweiniol wrth wneud cais am lwfans.

Fe gyfaddefodd y gwleidydd ei fod wedi gwneud cais am dreuliau seneddol ym mis Mawrth 2016, gan wybod bod yr anfoneb a gyflwynodd yn un “ffug neu gamarweiniol”.

Roedd yr ail gyhuddiad wedyn yn ymwneud â cheisio cyflwyno anfoneb debyg ym mis Ebrill 2016.

Mae’n debyg bod y ddau anfoneb ar gyfer lluniau i addurno ei swyddfa newydd.