Mae heddlu arfog a hofrennydd wedi eu galw yn dilyn marwolaeth dynes yn Abertawe yn ystod oriau mân y bore heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 23).
Yn ôl Heddlu De Cymru, fe gawson nhw wybod am y digwyddiad toc ar ôl 3yb yn dilyn adroddiad o ymosodiad difrifol ar ddynes, 22, a fu farw.
Mae ardal y digwyddiad, sef Teras Carlton, ynghau i’r cyhoedd wrth i swyddogion barhau i ymchwilio.
Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar unwaith.