Dafydd Elis-Thomas
Mae Aelod Cynulliad ac un o’r ymgeiswyr i arwain Plaid Cymru, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, wedi galw am ddiddymu teitl Prifysgol Cymru.

Dywedodd fod wedi bod yn “gamweithredol ers y 1970au”, yn cynnwys “seremoniau yn anurddasol a chwerthinllyd” a’i bod yn “defnyddio iaith ffug-hynafol ac annealladwy”.

Daw ei sylwadau yn dilyn adroddiadau diweddar am ddilysiad cymwysterau’r brifysgol. Daeth i’r amlwg neithiwr fod coleg preifat yn Llundain yn defnyddio diploma a gradd o Brifysgol Cymru i helpu pobol i dwyllo’u ffordd i gael fisas i ddod i wledydd Prydain.

Mae Is-Ganghellor Prifysgol Bangor eisoes wedi galw am gael gwared ar enw Prifysgol Cymru, gan ddweud nad yw’n cynrychioli’r wlad.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ei fod wedi ysgrifennu at y Gweinidog Addysg Leighton Andrews, yn mynegi yr angen i ddiddymu teitl ‘Prifysgol Cymru’ cyn gynted â phosib.

“Ychwanegaf fy marn mewn neges at sylwadau croyw fy Is-Ganghellor John Hughes a’i gydweithwyr ynglyn a’r angen i diddymu’r enw ‘Prifysgol Cymru’ ar fyrder,” meddai yn y neges.

“Gelwais am ddadl mewn cwestiwn i’r Gweinidog Busnes echdoe, ond bellach mae angen datganiad clir o fwriad mewn ymateb i’r datgeliadau diwedddaraf…. Nawr yw’r amser i weithredu argymhellion blaengar McCormick fel y trafodwyd rhyngom ar y pryd,” meddai.

“Fel Llywydd Prifysgol Bangor ers 2001, cyn aelod staff, ymchwilydd, a myfyriwr graddedig ac olradd o’r sefydliad hwnnw, byddwn yn barod i ddadlau bod Prifysgol Cymru, o ran gweinyddiaeth academaidd a chyfundrefn ddilysu graddau a diplomau y bum i’n dysgu ac addysgu ar eu cyfer, wedi bod yn gamweithredol ers y 1970au, a’i seremoniau yn anurddasol a chwerthinllyd yn defnyddio iaith ffug-hynafol ac annealladwy.

“Nid oedd ei harweinwyr academaidd, gydag eithriadau nodedig, yn fodlon ymwneud â bywyd ehangach economaidd a chymdeithasol Cymru. Bu ei llywodraethiad lleyg yn nwylo’r math gwaethaf o sefydliad Cymreig, a phrofodd yn gwbl anniwygiadwy, hyd yn oed i un mor ddygn ei ymdrech a’m cydweithiwr yr Arglwydd Wigley yn ei gyfnod yntau fel Dirprwy-Ganghellor.

“Anogaf chi fel Gweinidog y mae gen i barch i’w allu dadansoddol, ac edmygedd o’i benderfyniad, i weithredu ar fyrder, gan geisio unrhyw bwerau cyfreithiol anghenrheidiol i ddod a’r mater yma i ben. Fel Aelod Cynulliad, ac  Ail Dy’r DU, a Chyfrin Gynghorwr, fe wnaf unrhyw beth angenrheidiol i gynorthwyo.”