Cafodd yr Wyddfa ei “feddiannu” gan ymgyrchwyr amgylcheddol yn enw Extinction Rebellion y bore yma fel rhan o brotestiadau i dynnu sylw’r byd at beryglon newid yn yr hinsawdd.

Fe wnaeth un grŵp o Wynedd ddringo i fyny gyda baneri a phosteri i hawlio eu lle ar y copa tua 11.30 y bore yma.

Fe arhoson nhw ar y copa am rai munudau gan dderbyn cefnogaeth i’w gweithred gan nifer o’r cerddwyr.

Roedden nhw hefyd wedi bwriadu chwythu swigod fel rhan o’r “meddiant” i dynnu sylw’r cyhoedd at eu protest.
Mae’r mudiad eisiau i Lywodraeth San Steffan ddatgan argyfwng yn yr hinsawdd a gweithredu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr i fod yn sero erbyn 2025.
Anfonodd un o’r grŵp Paola Dyboski-Bryant, o gwmni swigod Dr Zigs, Bangor, neges at Golwg360 yn dweud: “Roedd yn anhygoel! Ychydig yn wyntog i chwythu swigod ar y copa. Mae wedi bod yn ddiwrnod positif iawn – llawr o gefnogaeth a phobol yn rhoi eu bodiau-i-fyny.
“Mae yn angenrheidiol inni ostwng ein allyriadau a gwrando ar ein plant sy’n hawlio mesur argyfwng ar ein hinsawdd. Yma yng Nghymru, mae geno ni’r cyfle i arwain y ffordd yn wirioneddol.”
Yn y cyfamser mae’r mudiad am gynnal cyfarfod y prynhawn yma i drafod eu camau nesaf wedi i ragor na 1,000 o bobol gael eu harestio dros gyfnod o wythnos o brotestiadau ynghanol Llundain.
Mae Pont Waterloo bellach wedi ei hail-agor wedi i’r protestwyr osod blociau ffordd. Roedd yna hefyd brotestiadau yn Stryd Oxford a Parliament Square. Mae protest gyfreithlon yn parhau yn Marble Arch, medd yr heddlu.
Dywed y trefnwyr eu bod yn bwriadu cynnal protest arall ger yr Amgueddfa Brydeinig heddiw.
Ddoe, fe ddywedodd Greta Thunberg, y ferch 16-mlwydd-oed o Sweden, a ddechreuodd y streiciau ysgol yn erbyn newidiadau hinsawdd wrth y protestwyr yn Llundain fod dynoliaeth “ar groesffordd.”