Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i farwolaeth dyn a gafodd ei daro gan dryc Isuzu yng Nghasnewydd neithiwr (nos Sadwrn, Ebrill 20).

Roedd yn cerdded ar hyd Heol Cas-gwent am oddeutu 11.50yh.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent ond bu farw o ganlyniad i’w anafiadau.

Does neb wedi cael ei arestio hyd yn hyn.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent ar 101.