Mae swyddog diogelwch o Bort Talbot yn dweud ei fod yn “barod i warchod wal Tryweryn, 24/7”.

Fe fu Kevin Gregory yn Llanrhystud ers rhai wythnosau, yn dilyn y newyddion am ddifrodi’r wal.

Roedd hefyd yn un o’r rhai oedd wrthi’n gwarchod murlun Banksy yn ei dref enedigol.

“Dw i wedi bod yn dilyn hanes y wal yn yr ardal honno ers blynyddoedd,” meddai wrth golwg360.

“Dw i ddim yn siarad Cymraeg, ond mae’n rhan o’n treftadaeth ni, y pentref hwnnw lle codwyd yr argae.

“Ces i fy syrffedu wrth i’r wal gael ei difrodi dro ar ôl tro.

“Dw i newydd ddechrau busnes mewn diogelwch. Dw i wedi bod wrthi’n swyddog diogelwch ers 35 o flynyddoedd, dw i’n 55 oed erbyn hyn.

“Wnes i benderfynu fy mod i am weithio i fi fy hun, ac ro’n i’n gwarchod wal Banksy am fis.

“Fe welais i [hanes wal Tryweryn] ar Facebook, a chysylltu ag ambell i ffrind yn yr ardal, a phenderfynu y byddwn i’n gwneud rhywbeth am y peth.

“Es i yno, a dw i wedi bod yn ei gwarchod yn rhad ac am ddim. Dw i wedi bod yn mynd yno ers rhai wythnosau.”

‘Rhaid’ gwarchod y wal yn barhaol

Mae’n dweud ei fod yn cefnogi’r alwad am warchod y wal yn barhaol.

“Mae’r bobol yno mor neis, ac yn bobol mor wych.

“Dw i wedi dweud wrthyn nhw, unrhyw broblemau a bydda i yno cyn gynted â phosib, dim problem o gwbl.

“Mae’r peth wedi mynd yn enfawr. Mae’n cyrraedd y bobol ac yn gwneud yn dda.

“Mae pobol yn paentio’r graffiti ym mhob man. Dyna sut ddylai hi fod.”

Beirniadu Hefin David

Wrth ymateb i feirniadaeth Hefin David o’r rhai sy’n paentio’r slogan ‘Cofiwch Dryweryn’ ledled Cymru, mae Kevin Gregory yn dweud mai “clown” yw Aelod Cynulliad Llafur Caerffili.

“Does neb ohonom yn talu sylw iddo fe.

“Mae hyn wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd, ac mae’n hen bryd fod rhywbeth yn cael ei wneud am y peth nawr.”