“Nid Brexit yn unig sydd ar agenda’r genedl” yw neges Archesgob Cymru ar Sul y Pasg.

Fe fydd yr Archesgob John Davies yn pregethu yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu heddiw am 11 o’r gloch, gan dynnu sylw at y rhai sydd mewn angen yn ein cymunedau.

Fe fydd yn galw am roi bywyd newydd iddyn nhw drwy ddangos caredigrwydd, cariad a thrugaredd.

Fe fydd e hefyd yn galw am ddangos parch, waeth bynnag am ddaliadau gwleidyddol.

‘Dathlu bywyd newydd’

Fe fydd yn dweud ein bod ni yng nghanol aflonyddwch gwleidyddol ar adeg y Pasg, cyfnod sy’n dathlu bywyd newydd.

Mae’n dweud ei fod yn gobeithio y bydd pobol “yn cymryd cam yn ôl” yn ystod y cyfnod hwn, ac yn gwrthod y demtasiwn i gymryd rhan mewn aflonyddwch gwleidyddol.

Mae’n gobeithio “y bydd pobol yn… cydnabod, fel y mae ganddyn nhw eu barn gadarn eu hunain, felly hefyd y mae gan bobol eraill eu barn nhw a bod yr hawl i’r farn honno yn rhywbeth i’w barchu”.

Fe fydd e hefyd yn rhoi sylw i bobol mewn angen yn y gymdeithas.

“Does dim angen i fi eich atgoffa chi o’r anghenion eithriadol sydd gan rai o’r bobol hyn na’u hachosion.

“Mae angen newid yn eu byd nhw; mae angen bywyd newydd arnyn nhw; maen nhw am gael eu hatgyfodiad eu hunain.”

Byd ‘cymhleth, anodd a heriol’

Fe fydd yn dweud nad oes gennym y “capasiti” i newid y byd, a’i fod yn “rhy gymhleth, anodd a heriol”.

“Fy ymateb i hynny yw atgyfnerthu fod un weithred o garedigrwydd, un weithred o haelioni, un weithred o drugaredd, un weithred o faddeuant, un weithred o gariad, gan un person i berson arall, yn newid bywyd y person arall hwnnw.

“Ac os caiff bywyd un person ei newid, yna mae’r byd yn cael ei newid, ac yn cael ei newid am y gorau.”

“Felly ydyn, rydyn ni wedi’n clymu’n wleidyddol; ond mae yna bethau eraill ar agenda’r genedl, gwir faterion o wir angen.

“Rwy’n annog, ar adeg o ddathlu bywyd newydd Crist, nad ydym yn gadael i ddaioni a chariad gael eu rhoi i’r naill ochr, nad ydym yn ceisio gwaredu’r neges o drugaredd, a’n bod yn ceisio bywyd newydd i’r rhai sydd mewn angen go iawn.”