Mae disgwyl i ddyn 47 oed ymddangos o flaen llys y bore ’ma ar ôl cael ei gyhuddo o lofruddio dyn yng Nghlydach.

Cafodd yr heddlu eu galw i Ffordd Gellionnen nos Fercher, ble cafwyd hyd i gorff Frederic Pallade, dyn 48 oed o Ffrainc.

Dywedodd Heddlu De Cymru ei fod wedi byw yn Abertawe am rai blynyddoedd.

Mae disgwyl i Andrew Tudor Jones, 47, o Glydach ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe y bore ’ma.