Mae cwmni bwyd wedi’i fygu o Fannau Brycheiniog yn dweud bod wyau Pasg sydd wedi eu cynhyrchu yn lleol yn cynnig “rhywbeth gwahanol” i gwsmeriaid.

Ers cael ei sefydlu yn 1996, mae Black Mountain Smokery yn nhref Crughywel wedi bod yn arbenigo mewn cynhyrchu a gwerthu gwahanol fathau o gaws a chigoedd wedi eu mygu.

Ond am y tro cyntaf eleni, maen nhw wedi dechrau gwerthu wyau siocled ar gyfer y Pasg, gyda phob un ohonyn nhw wedi eu cynhyrchu â llaw gan gwmni Brecon Chocolates.

Maen nhw’n dweud bod yr wyau siocled yn “gwerthu yn arbennig o dda” oherwydd bod cynnyrch Cymreig “o safon uchel”, a bod ganddo stori sy’n werth ei hyrwyddo hefyd.

Hyrwyddo cynnyrch lleol

“Mae cwsmeriaid yn caru pethau sydd wedi eu gwneud i safon uchel ac sy’n brydferth, ac maen nhw hefyd yn hoffi’r stori y tu ôl i bopeth,” meddai Kate Hepplewhite o Black Mountain Smokery.

“Mae llawer o bobol yng Nghymru yn hoffi cynnyrch Cymreig, ac maen nhw’n fodlon talu ychydig yn fwy am y cynnyrch ac yn hapus iawn i gefnogi busnesau lleol.

“Dyna pam yr ydyn ni wedi eu prynu, er mwyn cefnogi busnesau lleol.”

Mae Kate Hepplewhite hefyd yn dweud bod cyfnod y Pasg wastad wedi bod yn bwysig i Black Mountain Smokery, er mai dim ond eleni maen nhw wedi cychwyn gwerthu siocledi.

“Rydyn ni wastad yn gweld cynnydd yn y gwerthiant adeg y Pasg, oherwydd bod pobol eisiau ham a samwn wedi ei fygu,” meddai.