Mi fydd angen tua £150,000 o grantiau o Ewrop er mwyn sefydlu gorsaf radio gymunedol i wasanaethu’r 150,000 o Gymry Cymraeg yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.

Mae grŵp o Gymry’r ardal wedi cael gwybod gan y rheoleiddiwr darlledu Ofcom y bydd eu cais i sefydlu Radio Beca yn cael ei gloriannu dros y misoedd nesaf, gydag ateb cyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Daeth Cyfeillion Radio Ceredigion, Cwmni Cydweithredol Theatr Troed y Rhiw, Mentrau Iaith lleol a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant at ei gilydd yn ddiweddar er mwyn cynnig radio cyfrwng Cymraeg yn y de orllewin.

Ers i gwmni Town and Country Broadcasting brynu Radio Ceredigion bu cwynion nad oedden nhw’n cadw at y drwydded oedd yn mynnu rhaglenni hanner-a-hanner Cymraeg/Saesneg.

Ddechrau mis Medi daeth cyhoeddiad bod Ofcom am roi’r hawl i Town and Country geisio am drwydded newydd ar gyfer darparu radio masnachol yng Ngheredigion, heb unrhyw amod iaith yn perthyn i’r drwydded.

Er bod Euros Lewis o fenter Radio Beca yn deall pwysigrwydd cwyno, mae hefyd yn dweud bod angen diwallu’r angen yn y de orllewin am radio cyfrwng Cymraeg lleol.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n protestio, ond yn bwysig yn ogystal ein bod ni’n ffeindio ffordd o symud ymlaen,” meddai.

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 6 Hydref