Andrew RT Davies
Dylai’r Llywodraeth ddilyn esiampl Lloegr drwy rewi treth cyngor, yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad.

Roedd Andrew RT Davies yn ymateb i’r cyhoeddiad yn ystod cynhadledd y blaid Brydeinig ym Manceinion y byddai treth cyngor yn cael ei rhewi am yr ail flwyddyn yn Lloegr.

“Yn ystod y deuddeng mlynedd diwethaf mae (treth cyngor) wedi dyblu ac mae hynny wedi bod dan lywodraeth Lafur a chlymblaid Llafur a Phlaid,” meddai. “Fe fyddai pobol yn elwa trwy rewi treth cyngor yma yng Nghymru.

“Mae arian newydd yn cael ei anfon lawr yr M4 o’r Trysorlys yn Llundain sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ac rydym ni’n meddwl y byddai hyn yn symudiad synhwyrol ac yn un y bydden ni’n ei groesawu i roi hyder i gynghorau i fynd allan a gwario’r arian.”

Doedd David Cameron ddim yn ymyrryd yn ormodol wrth awgrymu y dylai Cymru wneud yr un peth â’r hyn sydd yn digwydd yn Lloegr a’r Alban, meddai.

“Dw i’n eistedd yn y siambr ac yn darllen y papurau yng Nghymru a dw i’n aml yn clywed yr hyn mae Carwyn Jones yn ei awgrymu y dylai llywodraeth San Steffan wneud felly rydym ni fel Ceidwadwyr yn parchu agenda datganoli.

“Mi ydym ni fel y Ceidwadwyr Cymreig yn falch i sefyll yn y siambr a gwneud ein gwaith fel yr wrthblaid swyddogol. Dw i ddim yn gweld unrhyw wrthdaro gyda Phrif Weinidog Prydain, pan mae rhywun yn gofyn cwestiwn iddo, yn awgrymu ffordd o weithredu ond yn y pendraw yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru benderfynu beth i’w wneud,” meddai.

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 6 Hydref