Fe fydd y ddrama lwyfan Llwyth yn cael ei throi’n ffilm ac mae gwledydd ar draws y byd â diddordeb i’w llwyfannu.

Bydd y dramodydd o Gaerdydd Dafydd James yn datblygu’r sgript ar gyfer ffilm unwaith y daw taith ei ddrama nesaf i ben fis Tachwedd.

Roedd “wrth ei fodd”, meddai, gyda’r ymateb i Llwyth ar ôl i Theatr Genedlaethol a Sherman Cymru fynd â hi i ŵyl Gaeredin fis Awst, ac ar daith o gwmpas Cymru.

Nawr mae gan gwmnïau theatr mewn gwledydd eraill ddiddordeb yn y ddrama.

“Pwrpas y daith yma, yn ogystal â rhoi cyfle i’r Cymry Cymraeg nad oedd eto wedi gweld y ddrama y tro cyntaf, oedd mynd â hi at gynulleidfa ddi-Gymraeg a chynulleidfa ryngwladol.

“Roedd gweld cynulleidfaoedd fel hyn yn chwerthin ac yn llefain wrth wylio’r ddrama yn rhoi gwefr fawr i mi. Nawr mae gan theatrau a gwyliau yn Nhaiwan, Tasmania a’r Ariannin, i enwi ond rhai, ddiddordeb yn sioe.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 6 Hydref