Mae heddlu yn nhref Dinbych-y-pysgod yn apelio am wybodaeth, yn dilyn lladrad o siop.

Fe gerddodd dyn i mewn i siop Jago’s ar y stryd fawr, tua 11yb ddydd Gwener, Ebrill 5, a dwyn hwdi o wneuthuriad Carhartt gwerth £85 oddi yno.

Yn  ôl disgrifiadau, yn ei ugeiniau cynnar, o gorffolaeth canolig, gyda gwallt melyn, byr a chyrliog. Ar fore’r lladrad, roedd yn gwisgo siaced ddu, jîns du, trênyrs Nike du, menyg du ac yn cario rycsac du.