Pencadlys Prifysgol Cymru
Mae pennaeth newydd Prifysgol Cymru wedi ymosod ar y rhai sy’n galw am ddiwedd y sefydliad.

Yn ôl Medwin Hughes, roedd y prifysgolion eraill yn poeni mwy am eu buddiannau eu hunain yn hytrach na buddiannau Cymru.

“Dyw’r sector addysg uwch ddim yn cyflawni tros Gymru,” meddai mewn cyfweliad ar Radio Wales. “Maen nhw’n canolbwyntio ar fantais gystadleuol y sefydliadau.”

Ac fe rybuddiodd y dylai pob prifysgol yng ngwledydd Prydain fod yn edrych yn ofalus ar eu gweithgareddau tramor, nid dim ond Prifysgol Cymru.

Twyll

Neithiwr, roedd y rhaglen deledu Week In Week Out wedi dangos fod coleg preifat yn Llundain yn defnyddio diploma a gradd o Brifysgol Cymru i helpu pobol i dwyllo’u ffordd i gael fisas i ddod i wledydd Prydain.

Ac ynghynt y bore yma, roedd Is-Ganghellor Prifysgol Bangor wedi ailadrodd yr alwad am gael gwared ar enw Prifysgol Cymru.

Yn ôl John Hughes, roedd y “brand wedi’i niweidio y tu hwnt i gael ei drwsio” a doedd y Brifysgol, sy’n rhan o gorff newydd gyda phrifysgolion y Drindod Dewi Sant a’r Metropolitan yn Abertawe, ddim yn cynrychioli Cymru.

Beirniadu’r prifysgolion mawr

Ond mae Medwin Hughes hefyd wedi ymosod ar y prifysgolion mawr eraill am beidio â gweithredu pan oedden nhw’n rhan o Brifysgol Cymru ac am wanhau’r sefydliad trwy ei adael yn ystod y blynyddoedd diwetha’.

Roedd hefyd yn dweud eu bod yn parhau i dderbyn arian o’r gwaith dilysu tramor ac fe addawodd y byddai Prifysgol Cymru yn parhau i weithio tramor, ond gyda rheolaeth well a thrwy gadw “at y safonau uchaf”.

“Efallai bod y brand wedi’i staenio,” meddai, “ond o dan y staen, mae yna arian da iawn.”