Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i farwolaeth llanc 13 oed a gafodd ei ganfod yn anymwybodol mewn parc, yn apelio ar bobol ifanc leol i gyhoeddi enw’r person sy’n cael ei amau o gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon iddo.

Cafodd Carson Price ei ganfod mewn parc yn Ystrad Mynach ger Caerffili ar nos Wener (Ebrill 12), tua milltir o’i gartref yn Hengoed.

Mae’r heddlu’n credu bod “sylweddau anghyfreithlon” wedi cyfrannu at ei farwolaeth, er nad yw hynny’n wedi ei gadarnhau’n swyddogol.

Mewn apêl ar wefan Youtube ddoe (dydd Llun, Ebrill 15), mae’r Uwch Arolygydd Mic McLain o Heddlu Gwent yn gofyn am help wrth geisio cael y darlun llawn am oriau olaf Carson Price.

“Dw i’n credu bod rhywun, yn rhywle, wedi gwerthu cyffuriau anghyfreithlon i Carson, a bod pobol eraill yn yr ardal yn gwybod pwy yw’r person hwnnw,” meddai.

“Dydyn ni ddim yn derbyn hyn yng Ngwent. Mae cyflenwi cyffuriau yn gallu difetha bywydau pobol ac rydyn ni’n gofyn i drigolion i gysylltu â ni ar unwaith os oes ganddyn nhw wybodaeth ynglŷn â delwyr cyffuriau.”

Hyd yn hyn, does neb wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Mewn datganiad byr, dywedodd teulu Carson Price ei fod yn fachgen “caredig a chariadus”.