Mae dyn yn ei 40au wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a beic modur ar ffordd yr A5 ger Betws-y-coed.

Digwyddodd y ddamwain ychydig cyn 11.15yb ddydd Llun (Ebrill 15) ar droadau Padog, gyda Volksgwagen Sharan a beic modur Honda yn gwrthdaro â’i gilydd.

Bu farw gyrrwr y beic yn y fan a’r lle, tra bo gyrrwr y Volkswagen wedi derbyn mân anafiadau.