Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau eu bod nhw’n trin yr achos diweddaraf o ddifrod i wal ‘Cofiwch Dryweryn’ yng Ngheredigion fel “trosedd casineb”.

Maen nhw hefyd yn dweud bod camera CCTV wedi eu gosod gerllaw er mwyn cadw golwg ar y murlun.

Cafodd yr arwydd enwog, sydd wedi ei lleoli ar ffordd yr A487 rhwng Llanrhystud ac Aberystwyth, ei greu yn wreiddiol yn ystod yr 1960au gan y bardd a’r awdur, Meic Stephens, yn dilyn boddi pentref Capel Celyn ger y Bala.

Mae’r arwydd wedi cael ei fandaleiddio droeon dros y blynyddoedd, ac yn fwy diweddar fe gafodd ran uchaf y wal ei chwalu’n llwyr.

Mae’r wal bellach wedi ei adfer gan griw o bobol ifanc, sydd hefyd wedi paentio’r geiriau ‘Fe godwn ni eto’ ar ddarn arall o wal y tu ôl i’r arwydd enwog.

Mae ymgyrch arian ar y we hefyd wedi codi dros £3,000 ers dydd Sadwrn (Ebrill 13).