Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion ynglŷn â cherbyd a fethodd â stopio ar ôl taro seiclwr ar ffordd yr A5156 ger Wrecsam dros y penwythnos.

Bu’r digwyddiad yn Llan y Pwll toc cyn 8yh neithiwr (nos Sul, Ebrill 14).

Cafodd y seiclwr ei gludo i Ysbyty Wrecsam Maelor gydag anafiadau difrifol, ac mae’r heddlu yn dal i chwilio am y cerbyd, sef VW Golf glas golau.

Mae PC Rich Priamo o’r Uned Plismona’r Ffyrdd yn galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â’r heddlu ar unwaith.

“Rydym yn awyddus i siarad ag unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd sy’n credu bod ganddyn nhw wybodaeth fydd o gymorth i ni ddod o hyd i’r VW Golf glas golau, neu unrhyw un a oedd yn teithio ar y ffordd sydd â recordiad camera cerbyd o’r car neu o’r seiclwr oedd yn gwisgo dillad seiclo golau,” meddai.