Mae dynes, a dreuliodd cyfnod yn gwerthu cylchgrawn y Big Issue, bellach yn un o’r ymladdwyr tân mwyaf profiadol yng ngwledydd Prydain.

Roedd Dr Sabrina Cohen-Hatton, 36, yn ddigartref am gyfnod pan oedd hi yn ei harddegau, ac fe ddechreuodd werthu’r cylchgrawn ar y strydoedd.

Erbyn hyn, mae dirprwy gomisiynydd Gwasanaeth Tân ac Achub Surrey yn llysgennad y Big Issue, ac mae wedi trafod ei phrofiadau mewn cyfweliad â’r cylchgrawn.

Mae’n dweud ei bod hi wedi gorfod troi i’r strydoedd ar ôl i’w thad farw, a’i mam yn dioddef o iechyd meddwl o ganlyniad i hynny.

“Roedden ni’n arfer cysgu wrth fynedfa hen eglwys, ac fe fydda i’n arfer cysgu mewn gorsafoedd trên tanddaearol,” meddai Dr Sabrina Cohen-Hatton.

Mae’n mynd yn ei blaen i ddweud bod gwerthu’r Big Issue wedi rhoi cyfle iddi ennill ychydig o arian a hunan-barch.

“Pan y’ch chi’n byw y bywyd hwnnw, ry’ch chi’n teimlo anweladwy,” meddai. “Ry’ch chi’n teimlo fel ysbryd mewn cymdeithas.

“Os yw rhywun ar y stryd yn syrthio, mae pobol yn rhuthro i’w helpu, ond pan y’ch chi’n sefyll ar gornel stryd gyda dim bwyd yn eich bôl, dim unman i fyw, a dim dillad glân, mae pobol yn cerdded heibio fel petaech chi ddim yno.”

Ychwanega y bu’n rhaid iddi anfon cais at 30 o wahanol wasanaethau tân ledled gwledydd Prydain cyn cael ei swydd gyntaf yn ne Cymru.

Mae Dr Sabrina Cohen-Hatton, sy’n gymrawd ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, bellach wedi bod yn ymladdwraig tân ers deunaw mlynedd.

Mae hefyd wedi astudio Seicoleg, ac wedi cyhoeddi llyfr ynglŷn â’r pwnc, sef Heat of The Moment.