Mae aelodau Yes Cymru Pen-y-bont ar Ogwr wedi paentio ‘Cofiwch Dryweryn’ ar wal yn y dref.

Fe ddaw yn dilyn helynt difrodi’r wal wreiddiol yn Llanrhystud dros y penwythnos, a sawl digwyddiad tebyg dros yr wythnosau diwethaf.

Yn ôl cyfrif Twitter y gangen, cafodd y criw ganiatâd Freya Sykes, perchennog siop losin Ella Riley, i baentio’r arwydd ar ochr yr adeilad ar Stryd Nolton y dref.