Mae Jude Cisse, cyn-wraig y pêl-droediwr Djibril Cisse, yn dweud bod eu plant wedi cael eu sarhau’n hiliol ar y we.

Yn ôl y ddynes o Fôn, cafodd Cassius, 13, a Prince, 11, eu targedu mewn cyfres o negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae lle i gredu bod un o’r negeseuon yn cyfeirio at ddigwyddiad pan gafodd bananas eu taflu at eu tad, tra bod un arall yn cynnwys neges hiliol gydag emoji chwerthin.

“Mae’r sarhad mae fy meibion wedi’i ddioddef y tu hwnt i grediniaeth,” meddai Jude Cisse wrth y Sunday Mirror.

“Pa fath o unigolyn sâl fasa’n targedu plentyn yn y fath fodd?

“Mae o wedi’u gadael nhw’n siarad am liw eu croen ac yn teimlo’n wahanol.”

Mae lle i gredu bod Heddlu Caer yn ymchwilio i’r negeseuon i weld a gafodd trosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus ei chyflawni.