Mae pum prifysgol wedi galw am ddiddymu teitl Prifysgol Cymru yn dilyn honiadau bod sefydliadau yn cynnig cymwysterau gafodd eu dilysu gan Brifysgol Cymru.

Dywed Is-Ganghellorion prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caedydd, Morgannwg ac  Abertawe na fyddan nhw’n derbyn y Brifysgol yn ei ffurf bresennol.

Daw’r cyhoeddiad ar ôl i raglen BBC Cymru Week In Week Out ddatgelu bod coleg yn Llundain yn defnyddio un o arholiadau Prifysgol Cymru i helpu myfyrwyr i dwyllo’u ffordd i mewn i wledydd Prydain.

‘Enw newydd’

Yn eu datganiad, dywedodd y pum prifysgol sy’n rhan o Grŵp Dydd Gwyl Dewi eu bod nhw wedi “arswydo” o glywed yr honiadau “ynglyn â rhai sefydliadau sy’n cynnig cymwysterau sydd wedi eu dilysu gan Brifysgolion Cymru.”

Dywedodd y grŵp nad oedd hyn yn adlewyrchiad o “safon ardderchog yr addysg sy’n cael ei ddarparu gan brifysgolion yng Nghymru,” a bod angen enw newydd ar y sefydliad.

Mae Prifysgol Cymru wedi dweud na fyddan nhw’n ymateb i’r honiadau diweddaraf.

Dywedodd llefarydd addysg y Democratiaid Rhyddfrydol Aled Roberts bod angen arweinyddiaeth glir gan Brifysgol Cymru, Llywodraeth Cymru a’r corff cyllido addysg uwch Hefcw.

Galw am ymchwiliad

“Mae datganiad Grŵp Dydd Gwyl Dewi yn adlewyrchu’r pryder sy’n cael ei deimlo gan y sector addysg uwch yng Nghymru,” meddai Aled Roberts.

Ychwanegodd bod na bryder y bydd yr honiadau diweddaraf yn effeithio enw da y sector gyfan.

Dywedodd Angela Burns AC o’r blaid Geidwadol yng Nghymru ei bod yn amhosib i’r sefydliad barhau ar ei ffurf bresennol.

Mae Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru wedi galw am ymchwiliad llawn ar unwaith.

Maen nhw’n dweud bod y sefydliad yn ymddwyn fel petai “y tu hwnt i reolaeth”.

Dywedodd Llywydd UCM Cymru, Luke Young: “Os oes sail i’r honiadau ynglyn ag anghysondebau pellach, yna mae brand Cymru, ei myfyrwyr a’i graddedigion wedi cael cam difrifiol.

“Yr hyn rydym wedi ei weld yn ddiweddar, yw sefydliad cenedlaethol yn bod yn ddifater ynglŷn â’i sefyllfa, ac yn gweithredu fel pe bai uwchlaw goruchwyliaeth a thu hwnt i reolaeth.

“Bydd miloedd o fyfyrwyr, ynghyd â channoedd o filoedd o raddedigion Prifysgol Cymru yn edrych ar y corff a gyflwynodd eu graddau gyda syndod ac yn rhyfeddu sut a caniatawyd i’r sefyllfa hon ddatblygu.

“Does dim dewis ond cynnal adolygiad llawn o’r honiadau, ac yna gweithredu ar fyrder i adfer hyder yn y Brifysgol.”

‘Twyllo’r system’

Fe ddefnyddiodd rhaglen Week In Week Out ffilmio cudd i ddangos dau aelod o staff yng Ngholeg Rayat yn Llundain yn helpu myfyrwyr i dwyllo’r system fewnfudo, gan gynnwys prynu diploma sy’n dwyn enw’r Brifysgol.

Fe ddywedodd y Gweinidog Mewnfudo, Damian Green bod y coleg yn amlwg yn ceisio creu bwlch yn y system fewnfudo. Fe rybuddiodd y byddai pobol sy’n gwneud hynny’n cael eu herlyn.

Ymddiswyddo

Yn y cyfamser mae cofrestrydd Coleg Rayat yn Llundain wedi ymddiswyddo, a thri aelod arall o staff y coleg wedi gael eu gwahardd o’u swyddi yn dilyn yr honiadau.

Mae cofrestrydd y Coleg Irvin Harris yn gwadu gwneud unrhywbeth o’i le a chafodd ei wahardd o’i swydd ddydd Llun, cyn ymddiswyddo ddydd Mawrth, yn ôl llefarydd ar ran y coleg.  Mae tri aelod arall o staff wedi eu gwahardd o’u swyddi tra bod ymchwiliad yn parhau.

Ar ôl amheuon cynharach am bartneriaethau tramor y Brifysgol, fe gyhoeddodd yr Is-ganghellor newydd y bydden nhw’n edrych eto ar eu holl waith yn dilysu graddau.