Chwalu rhan o wal Cofiwch Dryweryn

Diweddarwyd am  
Rhan ucha'r wal yn bentwr o gerrig wrth ei throed a hanner y gair Cofiwch wedi mynd

Wal Cofiwch Dryweryn wedi ei difrodi ym mis Ebrill 2019

Llun: O ffrwd trydar Jez

Mae rhan o wal Cofiwch Dryweryn ger Llanrhystud wedi cael ei chwalu.

Ar ôl sawl enghraifft o fandaleiddio ac ail-baentio tros yr wythnosau diwetha’, mae rhan ucha’r wwal bellach wedi ei chwalu’n llwyr.

Fe gafodd ei phaentio gynta’ yn y 60au gan y bardd a’r awdur, Meic Stephens, ar ôl boddi pentre’ Capel Celyn ac mae wedi dod yn nodwedd adnabyddus iawn ar y ffordd fawr rhwng Aberystwyth ac Aberaeron.

Ynghynt yr wythnos hon, roedd rhywun wedi amharu ar y graffiti ond roedd wedi ei hailbaentio ar unwaith.

Ynghynt eleni, roedd rhywrai wedi paenti enw Elvis tros y geiriau gwreiddiol ond fe gafodd ‘Cofiwch Dryweryn’ ei adfer y tro hwnnw hefyd.

Ar wahanol adegau, mae yngyrchwyr wedi galw am roi statws rhestredig i’r wal er mwyn ei gwarchod.

 

 

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Anrhydeddau Gorsedd y Beirdd 2019