Mae dyn a yrrodd ei gâr at gefnogwyr pêl-droed wedi cael ei garcharu am ddeng mlynedd.

Roedd Lee Taylor, 36, o Bort Talbot, yn chwarae i dîm Margam, ac ar ôl un gêm fe yrrodd at 11 o gefnogwyr tîm arall.

Digwyddodd hyn wedi i’w dîm golli 5-0 yng Nghorneli, Pen-y-bont ar Ogwr, ym mis Ebrill y llynedd.

Gerbron Llys y Goron Casnewydd cafodd ei farnu’n euog o 11 cyhuddiad o geisio achosi niwed corfforol bwriadol.

Cafodd hefyd ei farnu’n euog o yrru’n beryglus.

Y treial

Yn ystod y treial, clywodd y llys ei fod wedi gyrru at gefnogwyr – rhai yn 14 oed – ar ôl colli ei dymer.

Honnodd Lee Taylor ei fod yn ceisio rhwystro gwrthdaro rhwng aelod o’i dîm yntau, ac aelodau o’r tîm arall – Cornelly United.

Cafodd rhai o’r bechgyn eu taflu i’r awyr, ond gafodd neb eu hanafu’n ddifrifol.